Pipes Feed Preview: Y Podlediad Dysgu Cymraeg

1. Sgwrsio: Trishna Singh Davies

Wed, 08 Jul 2026 13:00:00 -0000

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Trishna Singh Davies sydd yn wreiddiol o Gaerfyrddin ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cerddoriaeth yw byd Trishna a DJ yw hi wrth ei galwedigaeth. Mae hi'n gweithio ar brosiectau fel Sgrech Fler a Ladies of Rage.

2. Sgwrsio: Jess Li

Wed, 10 Jun 2026 13:00:00 -0000

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Jess Li sydd yn wreiddiol o Gaerffili. Mae Jess yn beirianydd sifil wrth ei galwedigaeth ac yn medru siarad 4 iaith sef yr iaith Hakka, Cantoneg, Saesneg a Chymraeg. Mae hi wedi bod yn dysgu ers y Cyfnod Clo.

3. Pont: Ryan Rowe

Tue, 26 May 2026 13:00:00 -0000

Ryan Rowe Gwestai Angharad yn y bennod hon yw Ryan Rowe. Magwyd Ryan yn Peterborough yn Lloegr. Symudodd i’r brif ddinas er mwyn astudio daeareg yn y brifysgol. Erbyn hyn mae’n gyd-berchennog siop gacennau ym Mharc Fictoria. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn siarad â chwsmeriaid ei siop yn Gymraeg. Eleni, cyrhaeddodd rownd gynderfynol ar raglen deledu Y Llais. Dyma ei brofiad cyntaf o ganu’n fyw yn y Gymraeg.

Geirfa ar gyfer y bennod. Daeareg-geology Uniaethu- to relate Cyfarchiad- greeting Awyddus- eager/ keen Danteithion- delicacies Cofiadwy-memorable Ail alwadau- second calling Clyweliadau cudd- masked audition

4. Pont: Kate Jackson

Wed, 08 Apr 2026 13:00:00 -0000

Kate Jackson yw gwestai Angharad Lewis yn y bennod hon. Cafodd Kate ei magu yn Newport, Swydd Amwythig. Mae Kate yn gweithio fel Prif Swyddog Cyllid Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg er mwyn defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Yn y podlediad hwn, cawn glywed am ei phrofiadau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Geirfa ar gyfer y bennod

Swydd Amwythig - Shropshire Cyfrifydd - Accountant Canmoliaeth - Raise Iaith frodorol - Native language Cymhwyso - To qualify Tŷ bach twt - Wendy house Atgyfnerthu - To reinforce Prif Weithredwr- Chief Executive

5. Pont: Kevin Davies

Wed, 11 Mar 2026 14:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.

Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o’r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst.

Geirfa ar gyfer y bennod:-

anogaeth - encouragement crwt - bachgen bach ysu - to crave/yearn cywilydd - shame hiraeth - longing/ homesickness dyhead - aspiration/desire ysfa - desire/craving diwyd - diligent amhrisiadwy - priceless ymroi - to commit/devote oneself

6. Pont: Mark Adey

Wed, 11 Feb 2026 14:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod yma mae Angharad yn sgwrsio gyda Mark Adey.

Cafodd Mark ei fagu ym mhentref Pontlliw ger Pontarddulais. Penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn ei bedwardegau. Mae’n byw gyda’i deulu ym Mhentre’r Eglwys yn Sir Rhondda Cynon Taf. Mae’n gwirfoddoli ar bwyllgor Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac yn defnyddio’r Gymraeg yn gyson yn ei gymuned leol. Mae hefyd yn ddynwaredwr Elvis!

Geirfa ar gyfer y bennod

Ar y gweill - On the cards Tynfa – Attraction Cymhwyso - To qualify Ysgogiad - Incentive Gwaddol - Legacy Dynwaredwr - Impersonator Dilyniant – Sequence

7. Pont: Rachel Bedwin

Wed, 14 Jan 2026 15:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd. Rachel Bedwin sydd yn sgwrsio gydag Angharad yn y bennod yma.

Cafodd Rachel Bedwin ei mhagu yn Llundain. Tra’n fyfyrwraig yng Nghaergrawnt, dechreudodd ddysgu’r Gymraeg yn ei hamser sbâr. Yn dilyn cyfnod o brofiad gwaith yn ardal Eryri, penderfynodd symud i Ogledd Cymru er mwyn ymdrochi yn y Gymraeg. Mae hi bellach yn byw ym Mangor ac yn gweithio ac yn cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.

Geirfa ar gyfer y bennod

Cadeirlan - Cathedral Caergrawnt - Cambridge Ôl-radd - Postgraduate Tyllu - To make a hole Embryoleg - Embryology Trochiad - Immersion

8. Pont: Josh Morgan (Sketchy Welsh)

Wed, 10 Dec 2025 14:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod yma o'r podlediad Pont mae Angharad yn sgwrsio gyda Josh Morgan.

Josh Morgan yw awdur a dylunydd y cyfrif Instgram poblogaidd 'Sketchy Welsh'. Cafodd ei fagu yng Nghaerwrangon, ond erbyn hyn mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dysgodd y Gymraeg fel oedolyn. Mae’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol gyda’i deulu ac yn ei waith fel athro a dylunydd.

Geirfa ar gyfer y bennod:-

Caerwrangon - Worcester Croten - merch ifanc (tafodiaith Sir Gaerfyrddin) Gweledigaeth - a calling Tro trwstan - faux pas Ar drothwy’r Nadolig - on the brink of Christmas Cywair lleddf - minor key

9. Pont: Hammad Rind

Wed, 12 Nov 2025 14:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd a'r siaradwr Cymareg newydd yn y bennod hon yw Hammad Rind.

Cafodd Hammad ei eni a’i fagu yn Punjab, Pakistan. Fe ddechreuodd ddysgu’r Gymraeg ddwy flynedd yn ôl. Mae’n byw yn ardal Grangetown gyda’i deulu ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol ar yr aelwyd, yn y gwaith ac yn y gymuned.

Geirfa ar gyfer y bennod gwirioni - to dote cysondeb - consistency rhyddiaith - prose cystrawen - syntax/construction enwebu - to nominate marwnadol - elegiac

10. Pont: Sara Peacock

Wed, 15 Oct 2025 13:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.

Pennaeth Pwrpas Cymdeithasol ac Arweinydd Strategaeth y Gymraeg yn S4C yw Sara Peacock. Cafodd ei geni a’i magu yn Rhydychen.

Fe ddysgodd y Gymraeg fel oedolyn.

Mae hi’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol ar yr aelwyd, yn y gweithle ac yn y gymuned leol.

Geirfa: cyfarwydd - familiar bodolaeth -existence diffinio - to define graenus- polished gweledigaeth - vision uniaethu - to identify anweledig -invisible dyfalbarhau - to persevere ymdrochi- to immerse oneself

11. Sgwrsio: Y Doctor Cymraeg

Wed, 10 Sep 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Stephen Rule, sydd yn cael ei adnabod hefyd fel 'Y Doctor Cymraeg'. Mae'r podlediad wedi ei recordio ym Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst eleni.

12. Sgwrsio: Hans Obma

Wed, 13 Aug 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Hans Obma sydd yn actor ac yn ysgrifennwr.

Mae Hans yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd yr Unol Daleithiau a bellach yn byw yn Los Angeles.

Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Treuliodd haf 2023 yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America mae'n parhau i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.

13. Sgwrsio: Fleur de Lys

Wed, 09 Jul 2025 17:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Mae'r bennod yma yn bennod arbennig ac wedi ei recordio yng Ngŵyl Tafwyl yn ystod mis Mehefin eleni gydag aelodau'r band Fleur de Lys.

14. Sgwrsio: Israel Lai

Wed, 11 Jun 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gydag Israel Lai, sydd wedi ei eni a'i fagu yn Hong Kong ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Cerddor a chyfansoddwr ydy Israel sydd yn byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!

15. Sgwrsio: Grace Jones

Wed, 14 May 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol - mae hi wedi dysgu'r iaith drwy fyw a gweithio ymhlith Cymry pan oedd yng Nghymru ac wrth sgwrsio a gwrando ar Llion yn siarad. Bellach mae Grace a Llion wedi dychwelyd yn ôl i fyw i Seland Newydd, mae nhw newydd brynu fferm ac yn rieni balch i fab bach sydd yn ddwy oed.

16. Sgwrsio: Ben McDonald

Wed, 09 Apr 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Ben McDonald, ei ffrind ers dyddiau ysgol, ac mae'r ddau erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.

17. Pont: Rob Lisle

Tue, 11 Mar 2025 14:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda’i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yno gyda’i wraig Sian a’r plant. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i’r gymuned leol.

18. Pont: Alanna Pennar-Macfarlane

Tue, 11 Feb 2025 14:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar-Macfarlane.

Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar-Macfarlane. Yn wreiddiol o dref Stirling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennar Bapur.

19. Pont: Judi Davies

Tue, 14 Jan 2025 14:00:00 -0000

Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a’i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi’n fam-gu ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda’r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei brwdfryddedd a’i hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.

20. Pont: Kierion Lloyd

Tue, 10 Dec 2024 18:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.

Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.

21. Pont: Naomi Hughes

Tue, 12 Nov 2024 14:00:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae’n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae’n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.

22. Pont: Joseff Gnagbo

Fri, 11 Oct 2024 13:01:00 -0000

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.

Ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o’r wlad. Bu’n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati’n syth i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i’r Gymraeg.

23. Sgwrsio: Isabella Colby Browne

Tue, 08 Oct 2024 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

24. Sgwrsio: Aleighcia Scott

Tue, 10 Sep 2024 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.

25. Sgwrsio: Kieran McAteer

Tue, 13 Aug 2024 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.

26. Sgwrsio: Jess Martin

Tue, 09 Jul 2024 08:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.

27. Sgwrsio: Joshua Morgan

Tue, 11 Jun 2024 08:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sketchy Welsh'.

28. Sgwrsio: Luciana Skidmore

Tue, 14 May 2024 08:30:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

29. Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 4

Fri, 18 Oct 2019 09:00:00 -0000

Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol.

Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 4

Dêl - Deal Dwlu ar - To adore, to love Poblogaidd - Popular Gweddi’r Arglwydd - The Lord’s Prayer Cystadleuwyr - Contestants Pwll nofio - Swimming pool Yn gryf - Strongly Cyfle - Opportunity Trueni - Pity, shame Yn ddiweddar - Recently Ysgariad - Divorce Gwên - Smile Arafu - To slow down Aelod - Member Yr Orsedd - The Gorsedd or Congress of Bards (A Welsh honour associated with the Eisteddfod)

30. Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 3

Thu, 17 Oct 2019 09:00:00 -0000

Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol.

Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 3

Yn sydyn - Suddenly Hyder - Confidence Yn dost - Ill Asgwrn cefn - Backbone Niwmonia - Pneumonia Gofalu amdani ei hunain - To look after herself Penderfynol - Determined Cadair olwyn - Wheelchair Er cof am - In memory of Falch - Proud Hysbysebion - Adverts Annisgwyl - Unexpected Creision - Crisps Proses - Process Ymddangos - To appear Digwyddiad - Event Troi,troiais - To turn, I turned Casáu - To hate Trafferth - Trouble Drysau - Doors

31. Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 2

Wed, 16 Oct 2019 09:30:00 -0000

Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol.

Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 2

Uwchradd - Secondary Chweched dosbarth - Sixth form Dylanwadol - Influential Clustiau - Ears Clasurol - Classical Penderfynu, penderfynais - To decide, I decided Coleg cerdd - College of music Cynigion - Offers Gradd(au) - Grade(s) Arholiad(au) - Exam(s) Dewis - Choice Dros y byd i gyd - All over the world Priodas - wedding Almaeneg - German (language) Ieithoedd - Languages TGAU - GCSE Defnyddiol - Useful Diolchgar - Grateful Brenhinol - Royal Sylweddolais - I realised Pennaeth - Principal,head Lliwio - To colour, to add variation Wrth berfformio - While performing Eidaleg - Italian (language) Gwerthu rhaglenni - To sell programmes Sleifio - To sneak Cantorion - Singers Rhannu - To Share Gwely sengl - Single bed Uchel - High Isel - Low Opera Cenedlaethol Cymru - Welsh National Opera Tai opera - Opera Houses Ffliwt Hud - Magic flute Gyrfa - Career

32. Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare - Pennod 1

Tue, 15 Oct 2019 10:25:00 -0000

Y canwr opera, cyflwynydd a dysgwr Cymraeg sy’n edrych yn ôl ar ei fywyd yn ei bodlediad hunangofiannol.

Geirfa ddefnyddiol ar gyfer Podlediad O Gaerfyrddin i Go Compare, Wynne Evans, Pennod 1

Caerfyrddin - Caermarthen a dweud y gwir - to tell the truth trin gwallt - Hairdressing Ymladd - To fight Llym - Strict Achub - To save Arweinion nhw - They led Anrhydedd - honour Brwsel - Brussels Beichiog - Pregnant Atgofion - Memories Meithrin - Nursery Losin - Sweets Gweddol - Ok, so-so Disgybl - Pupil Clown y dosbarth - Class clown Canolbwyntio - To concentrate Athrawon - Teachers Swil - Shy Llwyfan - Stage Ieuenctid - Youth Colli - To loose Prif fachgen - Head boy Bathodyn(nau) - Badge(s) Gwnïo - To sew Cefnogi - To support Tocyn(nau) - Ticket(s) Gwych - Excellent

33. Matt Spry a'i westeion yn trafod dysgu Cymraeg

Mon, 14 Oct 2019 06:00:00 -0000

Matt Spry, Dysgwr y Flwyddyn 2018, sy’n sgwrsio gyda mewnfudwyr o wlad Pwyl, Yr Almaen, Arfordir Ifori a Lloegr, sydd wedi dysgu Cymraeg.

34. Podledliad Gorffennaf 21ain - 27ain

Mon, 30 Jul 2018 09:10:00 -0000

Nathan Abrams, Triniaeth IVF, Bethan Davies Antur y Ferch, ac Arwel Hogia'r Wyddfa.