Pipes Feed Preview: Y Podlediad Dysgu Cymraeg

1. Sgwrsio: Mila Maxon

Wed, 12 Aug 2026 13:00:00 -0000

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Mila Maxon a gafodd ei geni yn Llundain cyn symud i Ffrainc ac yna Seland Newydd lle cafodd hi ei magu. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd ers rhyw dair mlynedd ac fe gafodd hi ei denu i ddysgu Cymraeg ar ol gweld y gyfres deledu "Y Gwyll".

2. Sgwrsio: Trishna Singh Davies

Wed, 08 Jul 2026 13:00:00 -0000

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Trishna Singh Davies sydd yn wreiddiol o Gaerfyrddin ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cerddoriaeth yw byd Trishna a DJ yw hi wrth ei galwedigaeth. Mae hi'n gweithio ar brosiectau fel Sgrech Fler a Ladies of Rage.

3. Sgwrsio: Jess Li

Wed, 10 Jun 2026 13:00:00 -0000

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Jess Li sydd yn wreiddiol o Gaerffili. Mae Jess yn beirianydd sifil wrth ei galwedigaeth ac yn medru siarad 4 iaith sef yr iaith Hakka, Cantoneg, Saesneg a Chymraeg. Mae hi wedi bod yn dysgu ers y Cyfnod Clo.

4. Sgwrsio: Y Doctor Cymraeg

Wed, 10 Sep 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Stephen Rule, sydd yn cael ei adnabod hefyd fel 'Y Doctor Cymraeg'. Mae'r podlediad wedi ei recordio ym Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst eleni.

5. Sgwrsio: Hans Obma

Wed, 13 Aug 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Hans Obma sydd yn actor ac yn ysgrifennwr.

Mae Hans yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd yr Unol Daleithiau a bellach yn byw yn Los Angeles.

Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Treuliodd haf 2023 yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America mae'n parhau i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.

6. Sgwrsio: Fleur de Lys

Wed, 09 Jul 2025 17:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Mae'r bennod yma yn bennod arbennig ac wedi ei recordio yng Ngŵyl Tafwyl yn ystod mis Mehefin eleni gydag aelodau'r band Fleur de Lys.

7. Sgwrsio: Israel Lai

Wed, 11 Jun 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gydag Israel Lai, sydd wedi ei eni a'i fagu yn Hong Kong ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Cerddor a chyfansoddwr ydy Israel sydd yn byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!

8. Sgwrsio: Grace Jones

Wed, 14 May 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda Grace Jones, sydd wedi ei geni a'i mhagu yn Seland Newydd ac wedi dysgu Cymraeg, a hynny ar ôl cyfarfod ei gŵr Llion pan aeth ef allan i weithio fel cneifiwr i Seland Newydd. Fe dreuliodd Grace gyfnod yng Nghymru pan ddaeth hi a Llion i fyw yn Nebo, ger Llanrwst am gyfnod. Tydy Grace ddim wedi cael unrhyw wersi Cymraeg ffurfiol - mae hi wedi dysgu'r iaith drwy fyw a gweithio ymhlith Cymry pan oedd yng Nghymru ac wrth sgwrsio a gwrando ar Llion yn siarad. Bellach mae Grace a Llion wedi dychwelyd yn ôl i fyw i Seland Newydd, mae nhw newydd brynu fferm ac yn rieni balch i fab bach sydd yn ddwy oed.

9. Sgwrsio: Ben McDonald

Wed, 09 Apr 2025 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Ben McDonald, ei ffrind ers dyddiau ysgol, ac mae'r ddau erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.

10. Sgwrsio: Isabella Colby Browne

Tue, 08 Oct 2024 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

11. Sgwrsio: Aleighcia Scott

Tue, 10 Sep 2024 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.

12. Sgwrsio: Kieran McAteer

Tue, 13 Aug 2024 13:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.

13. Sgwrsio: Jess Martin

Tue, 09 Jul 2024 08:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.

14. Sgwrsio: Joshua Morgan

Tue, 11 Jun 2024 08:00:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sketchy Welsh'.

15. Sgwrsio: Luciana Skidmore

Tue, 14 May 2024 08:30:00 -0000

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.